Heddlu Dyfed Powys Police a Chyfryngau Cymdeithasu
Rydym yn annog pobl i’n dilyn a byddwn felly yn postio gwybodaeth
a ystyriwn yn ddiddorol, perthnasol a defnyddiol i bobl sy’n byw yn ardal
Heddlu Dyfed Powys.
Byddwn yn cynnwys:
- Eitemau
a gwybodaeth newydd am wasanaethau, mentrau, cyfarfodydd, digwyddiadau ac
ymgyrchoedd - Crynodebau
RSS o’r datganiadau i’r wasg a gyhoeddir ar ein gwefan; - Aildrydar/dolenni
sefydliadau sector cyhoeddus/cymunedol eraill ac unigolion sy’n berthnasol
i Ddyfed Powys; - Dolenni
i erthyglau perthnasol yn y cyfryngau ar-lein; - Byddwn
hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth a dolenni sy’n berthnasol i’n gwaith
a’r gwasanaethau rydym yn eu darparu, yn ogystal â holi cwestiynau i
geisio canfod barn y cyhoedd am ystod o bynciau ffurfiol ac anffurfiol; - Bydd
peth o’r cynnwys yn cael ei gynhyrchu’n fewnol a pheth gan gwmnïau
allanol. - Cadwn
yr hawl i ddileu unrhyw wybodaeth o’n mur/proffil/ffrwd ‘twitter’ a
ystyrir yn anaddas ar gyfer safwe cyhoeddus.
Dilynwyr/Ffrindiau
Os byddwch yn ein dilyn ar Twitter neu’n dod yn un o’n
ffrindiau ar Facebook ni fyddwn o reidrwydd yn eich dilyn chi yn ôl. Mae hyn er
mwyn annog pobl i beidio â defnyddio negeseua uniongyrchol ac osgoi’r angen i
drafod spam sy’n wastraff adnoddau. Mae hefyd yn eich galluogi chi i
adnabod defnyddwyr Twitter/Facebook yr ydym ni’n credu sy’n berthnasol i’n
gwaith yn ôl pwy yr ydym yn eu dilyn. Nid yw’r ffaith ein bod yn dilyn
unigolyn/sefydliad yn golygu ein bod yn eu cymeradwyo mewn unrhyw ffordd.
Argaeledd
Byddwn yn diweddaru ac yn monitro ein cyfrifon Twitter a
Facebook mor aml â phosib. Mae’n bosib na fydd y safleoedd ar gael o bryd i’w
gilydd ac nid ydym yn derbyn cyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth oherwydd cyfnod
o segurdod ganddynt hwy.
@Atebion, Negeseua Uniongyrchol a Negeseuon Wal
Rydym yn croesawu adborth a syniadau gan bawb sy’n ein
dilyn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gallu ateb pob neges unigol a dderbyniwn
drwy’r safleoedd.
Mae’r Tîm Canolbwyntio ar y Dinesydd yn darllen pob @ateb a
Neges Uniongyrchol gan sicrhau bod unrhyw syniadau neu themâu sy’n ymddangos yn
cael eu trosglwyddo i’r bobl berthnasol.
Mae’r manylion ar gyfer anfon gohebiaeth swyddogol i’w gweld
yn yr adran Cysylltu â Ni ar ein gwefan.
Peidiwch â dibynnu ar gyfryngau cymdeithasu ar gyfer
cysylltu â ni mewn argyfwng. Ffoniwch 999 mewn argyfwng neu 101 os yw’n llai
pwysig.
Noder os gwelwch yn dda: Nid oes proffiliau unigol gan ein
swyddogion ar Facebook. Dafydd Paws yw unig broffil swyddogol yr heddlu.












