Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau o ddifrif, ac yn ofalus iawn i sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn briodol er mwyn cael a chynnal hyder a ffydd unigolion ynom.

Er mwyn sicrhau ein bod ni’n prosesu’ch gwybodaeth bersonol yn deg a chyfreithlon, mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn eich hysbysu:

  • Pa wybodaeth bersonol y gallem fod yn ei dal amdanoch;
  • Sut fydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio;
  • Sut yr ydym yn cadw’r wybodaeth hon yn ddiogel;
  • Ein sail gyfreithiol dros brosesu’r wybodaeth hon;
  • Pa mor hir rydyn ni’n dal y wybodaeth hon;
  • Gyda phwy fyddwn ni’n rhannu’r wybodaeth;
  • Pa hawliau sydd gennych mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol hon.

Mae’r ardal a wasanaethir gan Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys yw’r Rheolydd Data, ac o’r herwydd, ef sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros brosesu cyfreithlon yr holl wybodaeth bersonol a brosesir gan yr Heddlu. Fe’i cynorthwyir gan y Swyddog Diogelu Data, sy’n rhoi cyngor ac arweiniad mewn perthynas â chyfreithiau diogelu data.

Ein rhif cofrestru ar gyfer diogelu data gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw Z537336X.

Rheolydd Data

Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
BLWCH POST 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF

Swyddog Diogelu Data

Pennaeth Rheoli Gwybodaeth
Heddlu Dyfed-Powys
Pencadlys yr Heddlu
BLWCH POST 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF

Prosesu o dan RHAN 2 - Prosesu cyffredinol

Llywodraethir prosesu gwybodaeth bersonol gan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) cysylltiedig. Mae rhan 2 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn berthnasol ar gyfer “data cyffredinol”, sef gwybodaeth bersonol sy’n cael ei phrosesu am reswm sydd ddim yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith neu ddiogelwch cenedlaethol, e.e. dibenion cyflogaeth neu gysylltiadau cyhoeddus.

Bydd y math o wybodaeth bersonol rydyn ni’n dal yn amrywio, gan ddibynnu pam rydych chi wedi cael cysylltiad â ni, ond gall gynnwys:

  • Manylion personol, megis eich enw, eich cyfeiriad a’ch cyfeiriad e-bost;
  • Teulu, ffordd o fyw ac amgylchiadau cymdeithasol;
  • Manylion addysg a hyfforddiant;
  • Manylion cyflogaeth;
  • Manylion ariannol;
  • Tarddiad ethnig neu hiliol;
  • Barn wleidyddol;
  • Credoau crefyddol neu gredoau eraill o natur debyg;
  • Aelodaeth o undeb llafur;
  • Cyflwr corfforol neu iechyd meddwl;
  • Bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol;
  • Troseddau a throseddau honedig;
  • Gweithdrefnau troseddol, canlyniadau a dedfrydau;
  • Ffotograff, sain a delweddau gweledol;
  • Olion bysedd, DNA a samplau eraill genetig neu fiometrig;
  • Nwyddau neu wasanaethau a ddarparwyd;
  • Cyfeiriadau at gofnodion neu ffeiliau â llaw;
  • Gwybodaeth sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch;
  • Trwyddedi neu hawlenni rydych chi’n eu dal;
  • Manylion am gwynion, digwyddiadau, ymgyfreitha sifil a damweiniau.

Byddwn yn defnyddio cyn lleied o wybodaeth bersonol â phosibl i gyflawni diben penodol. Gall eich gwybodaeth bersonol gael ei chadw ar system gyfrifiadurol, mewn cofnod papur megis ffeil ffisegol neu ffotograff.

Lle bo’n bosibl a/neu’n briodol, byddwch chi’n cael gwybod y rheswm dros gasglu, dal a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol. Er, yng ngoleuni swyddogaethau statudol Heddlu Dyfed-Powys, efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl oherwydd fe allai wneud hynny niweidio’r swyddogaethau plismona.

Gall Heddlu Dyfed-Powys, defnyddio a datgelu gwybodaeth bersonol yn ymwneud ag amrywiaeth eang o unigolion gan gynnwys y canlynol:

  • Ein staff, swyddogion, gwirfoddolwyr, asiantau, gweithwyr dros dro ac achlysurol;
  • Cyflenwyr;
  • Achwynwyr;
  • Gohebwyr, ymgyfreithwyr ac ymholwyr;
  • Cynghorwyr, ymgynghorwyr ac arbenigwyr proffesiynol eraill;
  • Unigolion sy’n agored i niwed neu ar goll;
  • Perthnasau, gwarcheidwaid a chydnabod yr unigolyn dan sylw;
  • Cyn-aelodau a darpar aelodau o staff, pensiynwyr a buddiolwyr.

Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn trin gwybodaeth bersonol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Byddwn ni’n sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn deg, yn gyfreithlon, ac mewn modd tryloyw gyda chyfiawnhad priodol.

Bydd Heddlu Dyfed-Powys ond yn defnyddio gwybodaeth bersonol briodol sy’n ofynnol ar gyfer bodloni ein dibenion penodol, a byddwn yn anelu i sicrhau ei bod yn cael ei diogelu’n briodol. Bydd yn ddigonol ac yn berthnasol, ac ni fydd yn ormodol. Bydd yn cael ei chadw’n gywir a diweddar, a bydd yn cael ei dinistrio pan na fydd ei hangen mwyach.

O dan rhan 2 (prosesu cyffredinol), gall eich gwybodaeth gael ei defnyddio i gefnogi dibenion plismona, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Gweinyddu staff/pensiynwyr, iechyd a llesiant galwedigaethol;
  • Cysylltiadau cyhoeddus/cyfryngau;
  • Cyllid/cyflogres/buddion/cyfrifon/archwiliadau/adolygiad mewnol;
  • Rheoli iechyd a diogelwch/hyfforddiant;
  • Rheoli eiddo/yswiriant/cerbydau/systemau a chludiant;
  • Cwynion;
  • Fetio;
  • Darparu gwybodaeth/gwasanaethau cyfreithiol;
  • Trwyddedu/cofrestru;
  • Ymchwil (yn cynnwys arolygon a dadansoddeg);
  • Chwaraeon/hamdden;
  • Caffael;
  • Cynllunio/profi/diogelwch;
  • Datblygu polisïau a strategaethau;
  • Gohebiaeth a dadansoddi cyfryngau cymdeithasol.

Mae eich gwybodaeth bersonol, a ddelir ar ein systemau ac yn ein ffeiliau, yn ddiogel a chaiff ei phrosesu gan:

  • Ein staff a’n swyddogion;
  • Contractwyr, gwirfoddolwyr a phroseswyr sy’n gweithio ar ein rhan, yn unol â’u cytundeb;

dim ond pan fo angen gwneud hynny at ddiben cyfreithlon.

Mae Heddlu Dyfed- yn cymryd diogelwch yr holl wybodaeth bersonol sydd o dan ein rheolaeth yn wirioneddol o ddifrif. Byddwn yn cydymffurfio â’r rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch, ac yn ceisio cydymffurfio ag arfer awdurdodedig Sicrwydd Gwybodaeth y Coleg Plismona, a’r rhannau perthnasol o Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001.

Byddwn yn sicrhau bod polisïau a hyfforddiant priodol, yn ogystal â mesurau technegol a gweithdrefnol, ar waith. Bydd y rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i sicrhau bod ein hadeiladau yn ddiogel a bod mesurau ffisegol digonol ar waith i’w diogelu. Dim ond y rhai sydd â phrawf adnabod priodol, a rhesymau dilys dros hynny, a gaiff fynediad i’r ardaloedd sydd ond yn agored i’n swyddogion, ein staff a staff ein hasiantaethau partner. Rydym yn cynnal archwiliadau o ddiogelwch ein hadeiladau er mwyn sicrhau bod diogelwch yn ddigonol. Mae ein systemau yn cyrraedd safonau diogelwch priodol y diwydiant a’r llywodraeth

Rydym yn cynnal archwiliadau ac arolygiadau rheolaidd, er mwyn diogelu ein systemau gwybodaeth â llaw ac electronig rhag colli a chamddefnyddio data, a dim ond pan fo rheswm dilys dros wneud hynny y byddwn yn caniatáu mynediad atynt. Mae ein gweithdrefnau gweithredol a’n polisïau safonol yn cynnwys canllawiau caeth ynglŷn â sut y gellir defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a geir ynddynt. Caiff y gweithdrefnau hyn eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein mesurau i ddiogelu gwybodaeth yn gyfredol.

Amddiffynnir eich preifatrwydd gan y gyfraith, sy’n dweud y cawn ond defnyddio eich gwybodaeth bersonol os oes gennym reswm priodol dros wneud hynny. Bydd eich gwybodaeth bersonol ond yn cael ei chasglu a’i defnyddio gan Heddlu Dyfed-Powys i gyflawni ei swyddogaethau cyfreithiol a chyfreithlon fel y diffinnir gan ddeddfwriaeth, cyfraith gwlad ac arfer gorau.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn prosesu gwybodaeth am amryw o resymau sydd ddim yn ymwneud â gorfodi’r gyfraith. Mae’r rhesymau pam y gallwn brosesu’ch gwybodaeth bersonol yn cynnwys: 

  • Ein cynorthwyo i fodloni ein “rhwymedigaethau cyfreithiol” fel cyflogwyr;
  • Rheoli “cytundebau” â’r rhai sy’n cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i ni;
  • Ein helpu i gynorthwyo’r rhai rydym yn dod i gysylltiad â nhw, y gellir gwneud hynny drwy gael eu “cydsyniad”, neu oherwydd ein “diddordebau dilys” – mae hyn yn cynnwys prosesau i wella’r gwasanaeth a ddarparwn i’r cyhoedd;
  • Cyflawni tasgau a ystyrir yn rhai “er budd y cyhoedd”.

Pan mae data sensitif neu ddata “categori arbennig” yn cael ei gasglu, bydd sail gyfreithiol ychwanegol yn berthnasol, megis cael cydsyniad penodol, sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth, nawdd cymdeithasol, amddiffyn yn erbyn hawliau cyfreithiol, lle mae diddordeb cyhoeddus sylweddol (megis diben plismona) ac am resymau ataliol neu iechyd galwedigaethol neu feddyginiaeth, ymysg rhesymau eraill.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cadw’ch gwybodaeth bersonol cyn hired ag sydd angen ar gyfer y diben penodol mae’n cael ei chadw.  

Bydd cofnodion sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol a brosesir ar gyfer dibenion “prosesu cyffredinol” yn cael eu rheoli yn unol â Pholisi Cadw Heddlu Dyfed-Powys.

Gall Heddlu Dyfed-Powys ddatgelu gwybodaeth bersonol i amrediad eang o dderbynwyr, gan gynnwys y rhai rydyn ni’n cael gwybodaeth bersonol ganddynt. Gall hyn gynnwys:

  • Gwasanaethau cymorth ar gyfer dioddefwyr a throseddwyr;
  • Cyrff neu unigolion sy’n gweithio ar ein rhan, megis contractwyr TG neu sefydliadau arolwg;
  • Llywodraeth Leol;
  • Llywodraeth Ganolog;
  • Ombwdsmyn ac awdurdodau rheoleiddio;
  • Y cyfryngau;
  • Prosesyddion data;
  • Darparwyr Gofal Iechyd;
  • Y Gwasanaethau Brys.

Datgelir gwybodaeth bersonol fesul achos. Dim ond gwybodaeth berthnasol sy’n benodol i’r diben a’r amgylchiadau fydd yn cael ei datgelu, a bydd rheoliadau angenrheidiol mewn grym.  

Bydd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn datgelu gwybodaeth bersonol i unigolion neu gyrff eraill pan fod angen. Gall hyn fod o dan unrhyw ddeddf gwlad, unrhyw reol gyfreithiol, neu orchymyn llys. Gall hyn gynnwys:

  • Y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant;
  • Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd;
  • Y Swyddfa Gartref;
  • Llysoedd;
  • Unrhyw gorff rheoleiddio arall a all ddangos bod diben dilys dros brosesu eich data personol.

Gall Heddlu Dyfed-Powys ddatgelu gwybodaeth ar sail ddewisol hefyd at ddiben unrhyw achosion cyfreithiol neu mewn cysylltiad â nhw, neu er mwyn cael cyngor cyfreithiol.

Lle bo’n bosibl, byddwch chi’n cael gwybod os ydyn ni’n bwriadu rhannu neu ddefnyddio eich gwybodaeth ar gyfer diben nad yw’n amlwg, naill ai’n uniongyrchol, drwy wefan yr heddlu, neu drwy ffordd arall o gyfathrebu. Wrth rannu unrhyw wybodaeth bersonol, bydd ond yn cael ei rhannu os ystyrir bod sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny, ac ar ôl ystyried eich hawl i breifatrwydd yn llawn.

Prosesu o dan RHAN 3 – Prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith

Llywodraethir prosesu gwybodaeth bersonol gan Ddeddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) cysylltiedig. Mae rhan 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018 yn berthnasol ar gyfer “awdurdodau cymwys” megis heddluoedd, sy’n prosesu data at ddibenion gorfodi’r gyfraith.

Er mwyn cyflawni ein cyfrifoldeb statudol, byddwn ni’n prosesu mathau amrywiol o wybodaeth bersonol, gan gynnwys:

  • Manylion personol megis eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad a manylion cyswllt;
  • Manylion cyflogaeth;
  • Manylion ariannol;
  • Tarddiad hiliol neu ethnig;
  • Barn wleidyddol;
  • Credoau crefyddol neu gredoau eraill o natur debyg;
  • Iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol;
  • Bywyd rhywiol a chyfeiriadedd rhywiol;
  • Troseddau a throseddau honedig;
  • Achosion troseddol, canlyniadau a dedfrydau;
  • Rhybuddiadau, ceryddon a rhybuddion;
  • DNA, olion bysedd a samplau genetig neu fiometrig eraill;
  • Delweddau ffotograffig, sain a gweledol;
  • Cudd-wybodaeth droseddol;
  • Gwybodaeth sy’n ymwneud â diogelwch;
  • Manylion am ddigwyddiadau a damweiniau.

Gall Heddlu Dyfed-Powys hefyd sicrhau, defnyddio a datgelu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud ag amrediad eang o unigolion, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Troseddwyr a throseddwyr a amheuir;
  • Tystion neu unigolion sydd yn rhoi gwybod am droseddau;
  • Unigolion sy’n trosglwyddo gwybodaeth i Heddlu Dyfed-Powys;
  • Dioddefwyr presennol a blaenorol a darpar ddioddefwyr.

Byddwn ond yn defnyddio’r wybodaeth bersonol sydd ei hangen i gyflawni diben penodol. Gall eich gwybodaeth bersonol gael ei dal ar gyfrifiadur neu mewn cofnod papur megis ffeil ffisegol neu ffotograff, ond gall hefyd gynnwys mathau eraill o wybodaeth a ddelir yn electronig, megis delweddau teledu cylch cyfyng a fideo o gamerâu corff.

Cewch eich hysbysu am y rheswm am gasglu, cadw a defnyddio eich gwybodaeth bersonol lle bo’n bosibl a/neu’n briodol. Er, wrth ystyried swyddogaethau statudol Heddlu Dyfed-Powys, gall hyn fod yn amhosibl gan y gall wneud ragfarnu swyddogaethau plismona.

Gall Heddlu Dyfed-Powys gael, defnyddio a datgelu gwybodaeth bersonol yn ymwneud ag amrywiaeth eang o unigolion, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Troseddwyr a throseddwyr a amheuir;
  • Tystion neu unigolion sydd yn rhoi gwybod am droseddau;
  • Unigolion sy’n trosglwyddo gwybodaeth i Heddlu Dyfed-Powys;
  • Dioddefwyr presennol a blaenorol a darpar ddioddefwyr.

Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn ymdrin â’r holl wybodaeth bersonol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Byddwn ni’n sicrhau fod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin yn deg a chyfreithlon gyda chyfiawnhad priodol.

Bydd Heddlu Dyfed-Powys ond yn defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer dibenion cyfreithlon ac mewn cysylltiad â’n gofyniad i gynnal y gyfraith, atal trosedd, dwyn troseddwyr i gyfiawnder, ac amddiffyn y cyhoedd. Byddwn ni’n anelu i sicrhau bod unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei diogelu’n briodol. Bydd yn ddigonol a pherthnasol, ac ni fydd yn ormodol. Bydd y wybodaeth yn cael ei chadw’n gywir a diweddar, a bydd yn cael ei dinistrio’n ddiogel pan na fydd ei hangen mwyach.  

O dan rhan 3 (prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith) gellir defnyddio eich gwybodaeth ar gyfer dibenion plismona, sy’n cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • Atal a datrys troseddau;
  • Dal ac erlyn troseddwyr;
  • Diogelu bywyd ac eiddo;
  • Cadw trefn;
  • Cynnal y gyfraith a threfn;
  • Cynorthwyo’r cyhoedd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r heddlu;
  • Unrhyw un o ddyletswyddau neu gyfrifoldebau’r heddlu sy’n codi o gyfraith gyffredin neu statud.

Mae eich gwybodaeth bersonol, sy’n cael ei dal ar ein systemau ac yn ein ffeiliau, yn ddiogel. Ceir mynediad ati a chaiff ei phrosesu ar sail “angen gwybod” yn unig gan:

  • Ein staff a’n swyddogion;
  • Contractwyr, gwirfoddolwyr a phroseswyr sy’n gweithio ar ein rhan, yn unol â’u cytundeb;

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cymryd diogelwch yr holl wybodaeth bersonol sydd o dan ein rheolaeth yn wirioneddol o ddifrif. Byddwn yn cydymffurfio â’r rhannau perthnasol o’r ddeddfwriaeth yn ymwneud â diogelwch, ac yn ceisio cydymffurfio ag arfer awdurdodedig Sicrwydd Gwybodaeth y Coleg Plismona, a’r rhannau perthnasol o Safon Diogelwch Gwybodaeth ISO27001.

Byddwn yn sicrhau bod polisïau a hyfforddiant priodol, yn ogystal â mesurau technegol a gweithdrefnol, ar waith. Bydd y rhain yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i sicrhau bod ein hadeiladau yn ddiogel a bod mesurau ffisegol digonol ar waith i’w diogelu. Dim ond y rhai sydd â phrawf adnabod priodol, a rhesymau dilys dros hynny, a gaiff fynediad i’r ardaloedd sydd ond yn agored i’n swyddogion, ein staff a staff ein hasiantaethau partner. Rydym yn cynnal archwiliadau o ddiogelwch ein hadeiladau er mwyn sicrhau bod diogelwch yn ddigonol. Mae ein systemau yn bodloni safonau diogelwch priodol y diwydiant a’r llywodraeth.

Rydym yn cynnal archwiliadau ac arolygiadau rheolaidd, er mwyn diogelu ein systemau gwybodaeth â llaw ac electronig rhag colli a chamddefnyddio data, a dim ond pan fo rheswm dilys dros wneud hynny y byddwn yn caniatáu mynediad atynt. Mae ein gweithdrefnau gweithredol a’n polisïau safonol yn cynnwys canllawiau caeth ynglŷn â sut y gellir defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a geir ynddynt. Caiff y gweithdrefnau hyn eu hadolygu’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein mesurau i ddiogelu gwybodaeth yn gyfredol.

Mae dyletswydd statudol ar Heddlu Dyfed-Powys i gynnal y gyfraith, atal troseddau, dod â throseddwyr gerbron llys barn a diogelu’r cyhoedd. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol o dan sail gyfreithlon “budd y cyhoedd” ac “awdurdod swyddogol”. Mae hyn yn golygu ein bod yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasgau a osodir o dan y gyfraith ac a ddisgrifir ar y cyd fel gweinyddu cyfiawnder.

Dibenion gorfodi’r gyfraith yw:

“atal ac ymchwilio i droseddau a’u datrys neu eu herlyn neu roi cosbau troseddol, gan gynnwys diogelu rhag bygythiadau i ddiogelwch cyhoeddus a’u hatal”.

Mae gweinyddu cyfiawnder yn cynnwys atal a datrys troseddau; arestio ac erlyn troseddwyr; diogelu bywyd ac eiddo; cadw trefn; cadw cyfraith a threfn; cynorthwyo’r cyhoedd yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r heddlu; diogelwch gwladol; amddiffyn achosion sifil ac unrhyw un o ddyletswyddau neu gyfrifoldebau’r heddlu sy’n codi o gyfraith gyffredin neu statud.

Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn cadw gwybodaeth bersonol cyhyd ag sy’n angenrheidiol at y diben neu’r dibenion penodol y caiff ei dal. Caiff gwybodaeth bersonol a roddir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu ei chadw, ei hadolygu a’i dileu yn unol â’r Canllawiau Cadw ar gyfer Cofnodion Enwau ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

Caiff cofnodion eraill sy’n cynnwys eich gwybodaeth bersonol ac a broseswyd at ddibenion gorfodi’r gyfraith eu cadw yn unol â Chanllawiau’r Coleg Plismona ar Reoli Gwybodaeth yr Heddlu (MoPI), a Pholisi Cadw Cofnodion Heddlu Dyfed-Powys.

Er mwyn galluogi Heddlu Dyfed-Powys i gyflawni ei ddyletswydd statudol, efallai y bydd angen i ni rannu’ch data â sefydliadau eraill sy’n prosesu data am reswm tebyg, yn y DU a/neu dramor, neu er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Mae’r sefydliadu hyn yn cynnwys:

  • Asiantaethau eraill sy’n gorfodi’r gyfraith (gan gynnwys asiantaethau rhyngwladol);
  • Asiantaethau partner sy’n gweithio ar fentrau i leihau troseddau;
  • Partneriaid ym maes cyfiawnder troseddol;
  • Llywodraeth leol;
  • Awdurdodau sy’n ymwneud â rheoli troseddwyr;
  • Asiantaethau rhyngwladol sy’n ymwneud â diogelwch rhyngwladol a domestig;
  • Trydydd partïon sy’n rhan o ymchwiliadau sy’n ymwneud â diogelwch gwladol;
  • Cyrff neu unigolion eraill pan fydd yn angenrheidiol er mwyn atal niwed i unigolion.

Ystyrir achosion o ddatgelu data personol ar sail unigol, a dim ond drwy ddefnyddio’r data personol sy’n briodol at ddiben ac amgylchiadau penodol, a gyda’r rheolaethau angenrheidiol ar waith.

Bydd Heddlu Dyfed-Powys hefyd yn datgelu gwybodaeth bersonol i gyrff neu unigolion eraill pan fydd yn ofynnol gwneud hynny o dan unrhyw ddeddfwriaeth, cyfraith neu orchymyn llys. Gall hyn gynnwys:

  • y Swyddfa Twyll Difrifol;
  • y Fenter Twyll Genedlaethol;

Gall Heddlu Dyfed-Powys hefyd ddatgelu gwybodaeth bersonol yn ôl ei ddisgresiwn at ddiben unrhyw achosion cyfreithiol neu mewn cysylltiad â nhw, neu er mwyn cael cyngor cyfreithiol.

Lle bo’n bosibl, byddwch chi’n cael gwybod os ydyn ni’n bwriadu rhannu neu ddefnyddio eich gwybodaeth ar gyfer diben nad yw’n amlwg, naill ai’n uniongyrchol, drwy wefan yr heddlu, neu drwy ffordd arall o gyfathrebu. Wrth rannu unrhyw wybodaeth bersonol, bydd ond yn cael ei rhannu os ystyrir bod sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny, ac ar ôl ystyried eich hawl i breifatrwydd yn llawn.

Eich hawliau

Mae hon yn gosod rhwymedigaeth ar Heddlu Dyfed-Powys i ddweud wrthych am y wybodaeth bersonol rydyn ni’n ei dal amdanoch. Rydym wedi ysgrifennu’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn er mwyn esbonio sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol a dweud wrthych beth yw eich hawliau o dan y ddeddfwriaeth.

Os hoffech gael copi o’ch gwybodaeth bersonol, gelwir hyn yn hawl gwrthrych i weld gwybodaeth fel arfer, sef yr hawl sy’n caniatáu i chi weld eich gwybodaeth bersonol a gwybodaeth atodol, ond mae’n destun rhai cyfyngiadau. Medrwch wneud cais am wybodaeth bersonol drwy ymweld â'n tudalen 'Diogelu Data a gwneud cais am wybodaeth bersonol'

Mae gennych yr hawl i ofyn am i wybodaeth bersonol gael ei chywiro os yw’n anghywir neu’n anghyflawn.

Mae’r hawl hon yn eich galluogi i ofyn am i wybodaeth bersonol gael ei dileu neu ei thynnu a/neu'r hawl i rwystro/atal neu gyfyngu ar brosesu’ch gwybodaeth bersonol pan nad oes rheswm cymhellol dros barhau i’w phrosesu. Nid yw’r hawl yn ddiamod ac mae ond yn berthnasol mewn amgylchiadau penodol. Pan fydd cyfyngiadau ar brosesu, caiff sefydliadau gadw’r wybodaeth bersonol, ond ni chânt ei phrosesu ymhellach. 

Nid yw’r hawl hon yn berthnasol ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir o dan rhan 3 (prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith).

Mae’r hawl i gludadwyedd data yn caniatáu i chi, mewn rhai achosion, gael ac ailddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at eich dibenion eich hun mewn gwasanaethau gwahanol. Mae gennych hawl i gael copïau o’ch gwybodaeth bersonol gennym mewn fformat y gellir ei ailddefnyddio’n hawdd.

Nid yw’r hawl hon yn berthnasol ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir o dan rhan 3 (prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith).

Mae gennych yr hawl i wrthwynebu’r canlynol:

  • Prosesu eich gwybodaeth bersonol ar sail diddordebau dilys neu gyflawni tasg er budd y cyhoedd/arfer awdurdod swyddogol (gan gynnwys proffilio);
  • Prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio);
  • Prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion ymchwil wyddonol/hanesyddol ac ystadegau.

Nid yw’r hawl hon yn berthnasol ar gyfer gwybodaeth bersonol a brosesir o dan rhan 3 (prosesu at ddibenion gorfodi’r gyfraith).

Ystyr gwneud penderfyniadau unigol awtomataidd a phroffilio yw penderfyniad a wneir drwy fodd awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol. Os ydych chi’n credu bod penderfyniad mewn perthynas â’ch gwybodaeth bersonol wedi’i wneud yn awtomataidd, mae gennych hawl i herio’r penderfyniad a gofyn am adolygiad drwy ymyrraeth ddynol.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw corff annibynnol y DU a sefydlwyd i gynnal hawliau gwybodaeth.

Os oes gennych bryder ynglŷn â’r ffordd rydym wedi defnyddio’ch gwybodaeth bersonol, os credwch nad ydym yn prosesu’ch gwybodaeth bersonol yn unol â’r gyfraith, neu os ydych yn anfodlon â’n hymateb, medrwch achwyn wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Ffôn: 0303 123 1113

E-bost: casework@ico.org.uk

Gwefan: https://ico.org.uk/

Cyfeiriad:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaerlleon
SK9 5AF

Coronafeirws COVID-19

Y mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn er mwyn ei gwneud yn haws deall, ac i’ch darparu chi gyda mwy o wybodaeth ynghylch y modd y gall Heddluoedd geisio casglu a dal gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi mewn perthynas â’r newidiadau digynsail rydym i gyd yn eu hwynebu yn ystod y pandemig Coronafeirws (COVID-19).

Gall Heddluoedd geisio casglu a phrosesu eich data personol mewn ymateb i’r achos diweddar o’r Coronafeirws, sydd uwchlaw a thu hwnt i’r hyn a fyddai fel arfer yn cael ei gasglu gennych, er mwyn sicrhau diogelwch a lles ein swyddogion, staff a’r cyhoedd.

Bydd gwybodaeth o’r fath wedi ei chyfyngu i’r hyn sy’n briodol ac yn angenrheidiol, gan ystyried y cyfarwyddyd diweddaraf a gyhoeddir gan y Llywodraeth a gweithwyr iechyd proffesiynol, er mwyn rheoli ac atal y feirws. Bydd hyn yn galluogi Prif Gwnstabliaid i gyflawni eu swyddogaethau i gadw pobl yn ddiogel mewn modd effeithiol.

Lle y mae gwybodaeth mewn perthynas â’r Coronafeirws i’w defnyddio at ddibenion adrodd cyffredinol neu ystadegau, cymerir camau i sicrhau bod y data’n ddienw a defnyddir rhifau cyffredinol, lle bynnag y bydd hynny’n bosibl.

Mae data personol yn cael ei gasglu er mwyn galluogi Heddluoedd i adnabod unrhyw un y maent yn dod i gysylltiad â nhw drwy eu tasgau plismona sydd o fewn un o’r categoriau risg uchel ac a fyddai’n cael eu hystyried yn fregus a/neu wedi eu heintio gyda’r Coronafeirws.

Mae’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn ei gwneud yn ofynnol i amodau penodol gael eu bodloni er mwyn sicrhau bod y prosesu data personol yn gyfreithlon. Ceir yr amodau perthnasol hyn isod:

  • Erthygl 6(1)(d) – yn angenrheidiol er mwyn diogelu’r buddiannau allweddol i fywyd gwrthrych y data neu fod dynol arall.
    Mae Cronicliad 46 yn ychwanegu y “gall peth prosesu gyflawni’r ddwy sail bwysig o ran budd y cyhoedd a buddiannau allweddol gwrthrych y data, fel er enghraifft pan mae prosesu’n angenrheidiol at ddibenion dyngarol, gan gynnwys ar gyfer monitro epidemigion a’u lledaeniad”.
  • Erthygl 6(1)(e) – yn angenrheidiol er mwyn perfformio tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu er mwyn gweithredu awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolwr.
    Y mae Adran 8(c) y Ddeddf Diogelu Data yn nodi y dylai tasg o’r fath fod yn angenrheidiol ar gyfer perfformio swyddogaeth a roddwyd i unigolyn drwy ddeddfiad neu reol gyfreithiol. Mae Deddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yn darparu y gall Prif Gwnstabl wneud unrhyw beth a gyfrifir i hwyluso neu sy’n ffafriol neu’n gysylltiedig ag arfer swyddogaethau Prif Gwnstabl.

 

Y mae prosesu categoriau arebnnig o ddata personol, sy’n cynnwys data yn ymwneud ag iechyd unigolyn, wedi ei wahardd oni bai y gellir bodloni amodau penodol pellach. Ceir yr amodau perthnasol pellach hyn isod:

  • Erthygl 9(2)(i) - yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd ym maes iechyd cyhoeddus, megis diogelu yn erbyn bygythiadau traws-ffiniol difrifol i iechyd.
    Atodlen 1, Rhan 2(6) – yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd sylweddol ac at ddiben swyddogaeth a roddwyd i unigolyn drwy drwy ddeddfiad neu reol gyfreithiol; e.e. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws 2020 a Bil Coronafeirws 2020

    Atodlen 1, Rhan 1(3) – yn angenrheidiol am resymau budd y cyhoedd ym maes iechyd cyhoeddus, ac wedi ei gyflawni gan neu dan gyfrifoldeb gweithiwr iechyd proffesiynol, neu gan unigolyn arall sydd o fewn yr amgylchiadau â dyletswydd gyfrinachedd dan ddeddfiad neu reol gyfreithiol, e.e. Cyfarwyddyd Llywodraethol a gyhoeddwyd gan Public Health England

Er na ellir gwneud darparu data yn orfodol, fe’ch cynghorir yn gryf bod darparu’r wybodaeth hon i’r Heddlu o’r budd pennaf i bawb, fel y gallwn gymryd camau perthnasol i’ch cadw chi ac eraill yn ddiogel.

Bydd y wybodaeth yn cael ei rheoli mewn modd cyfrinachol. Bydd pob gwybodaeth yn cael ei dal yn ddiogel ac yn cael ei phrosesu ar sail ‘angen gwybod’ gan nifer cyfyngedig o bobl yn unig. Os oes angen datgelu y tu hwnt i hyn, defnyddir cyn lleied o wybodaeth bersonol â phosibl.

Bydd pob Heddlu ond yn cadw eich gwybodaeth cyhyd â bod angen gwneud hynny, gan ystyried cyngor y Llywodraeth a’r risg parhaus yn sgil y Coronafeirws.

Ni fydd gwybodaeth iechyd a ddarperir gennych chi mewn perthynas â’r achos hwn o’r Coronafeirws yn cael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

Pan na fydd angen y wybodaeth bellach at y diben hwn, bydd yn cael ei dileu mewn modd diogel.

Eich hawliau

Os hoffech wybod mwy am eich hawliau gwybodaeth neu sut i’w harfer, darllenwch y gwybodaeth yn adrannau cynharach ar y dudalen hon.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch ynghylch y modd yr ydym yn prosesu eich data personol, gallwch gysylltu gyda’r Swyddog Diogelu Data drwy: dataprotection@dyfed-powys.pnn.police.uk

 Ceir gwybodaeth ac arweiniad pellach gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar y mater hwn wrth fynd at: https://ico.org.uk/for-organisations/data-protection-and-Coronavirus/

Adolygu’r hysbysiad preifatrwydd hwn

Rydyn ni’n adolygu’n hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd.

Os bwriadwn ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddiben newydd, byddwn yn diweddaru ein hysbysiad preifatrwydd ac yn eich hysbysu am y newidiadau cyn dechrau unrhyw brosesu newydd.